Coronafeirws Newydd (COVID-19)

Rieni / Gwarcheidwad

Er nad oes unrhyw achosion wedi eu hadrodd yn yr ysgol hyd yn hyn, rydym yn dymuno eich sicrhau bod mesurau yn cael eu cymryd yn unol â chyngor cyfredol gan Brif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig. Fel ysgol, rydym yn parhau i hybu hylendid dwylo ac hylendid personol anadlu (Defnyddio tisw / penelin. Gofynnir i chi gefnogi hyn gartref hefyd. Gellir dod o hyd i fwy o gyngor a gwybodaeth yn fan hyn.

 

A wnewch chi sicrhau fod eich plentyn yn dod a photel ddwr bersonol wedi ei labelu ac yn ei golchi adref bob nos. Ni fyddwn yn darparu cwpanau plastig yn y dosbarth.

Bydd ein Clwb Brecwast a Chymer Ofal yn gweithredu fel arfer, am y tro. Ry’n ni wedi penderfynu gohirio cyfweliadau rhieni tan y tymor nesaf. Mae’r Urdd, hefyd wedi gohirio’r Eisteddfod am flwyddyn ac fe fydd ymarferion yn dod i ben.

Er ein bod yn glynu wrth gyngor ar hyn o bryd ac yn aros ar agor fel ysgol, rydym yn ymwybodol o’r posibilrwydd y byddwn yn cau yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae gennym ‘Gynllun Parhad Busnes’ cadarn mewn lle ac er mwyn paratoi ar gyfer y fath sefyllfa, rydym yn y broses o gynhyrchu deunyddiau dysgu y gellir cael mynediad hwylus atynt ar-lein drwy lwyfannau megis HWB

Rwy’n siŵr eich bod yn sylweddol bod y protocol o “ymbellhau cymdeithasol” mewn ysgol yn anodd iawn i’w gyflwyno, fodd bynnag, bydd ein rhaglen ar gyfer gwasanaethau yn y neuadd, yn cael eu gohirio am y dyfodol rhagweladwy.

Ar gyfer cyfweliadau CAU rwyf wedi gofyn i staff sicrhau fod yna 2m. rhyngddoch chi ar gyfer y cyfarfodydd. Gofynnwn i chi olchi dwylo yn drylwyr cyn ac ar ôl y cyfweliad. Fe fydd angen pen personol arnoch i lofnodi’r gwaith papur.

Os oes well gennych dderbyn copi electronig o’r gwaith papur yn hytrach na dod i’r cyfarfod, mae croeso i chi gysylltu â’r swyddfa.

 

Diolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad wrth i ni barhau i gydweithio i ddarparu amgylchedd diogel i gymuned ein hysgol.

 

Yn gywir,

Rh.G.Harries BA MSc
Pennaeth
Head teacher