Helo blant Blwyddyn 5!
Dyma ni ac mae wythnos 5 wedi cyrraedd yn barod ! Anodd credu bod gwyliau hanner tymor wythnos nesaf !
Diolch yn fawr i bawb am eich gwaith ardderchog ar Aseiniadau ! Rydyn ni yn gwerthfawrogi eich hymdrechion chi i gyd! Daliwch ati!
PRIF DASGAU
Gweithgareddau 18.05.2020
Cofiwch mai wythnos Cymraeg yw hi a bydd angen cwblhau 3 tasg (o’ch dewis) yr wythnos hon a 3 ar ôl y gwyliau.
Edrychwch trwy’r ffeil (Wythnos 5 18.05.20) ar Teams i weld a dewis eich tasgau. Bydd angen cyflwyno POB tasg ar ffurf ASEINIADAU.
COFIWCH HEFYD BWYSIGRWYDD:
DARLLEN DYDDIOL, BUGS ONLINE, TT ROCKSTARS, PROFION BIG MATHS A SILLAFU.
Byddwn ni yma ar Teams yn ystod oriau’r ysgol ac yn edrych ymlaen at glywed gennych os oes angen unrhyw gymorth!
Daliwch i wenu !
Cofion gorau,
Miss Jones, Mrs Williams, Mrs Esau a Mrs Llwyd x
PWYSIG:
Yn dilyn gwaith ar safle BUGS ONLINE (Active Learn) ar ôl 16/5/2020, bydd angen ail deipio côd ysgol, enw defnyddiwr a’r cyfrinair pan fyddwch yn logio mewn nesaf ar y safle.