05/07/19

Helo blantos!

Mae’r haul wedi cyrraedd o’r diwedd ac rydym yn gyffrous iawn am y mabolgampau ar ddydd Iau! Cofiwch wisgo cap ac eli haul a dewch a botel o ddwr!

Hoffem felly i chi greu baner i gefnogi eich llys er mwyn ei chwifio ar fore’r rasio!

Cofiwch ddefnyddio y lliwiau cywir am eich llys chi:

Pwyll – Coch

Manawydan – Gwyrdd

Branwen – Glas

Diolch yn fawr a joiwch y penwythnos!

Ms Pennar, Mrs Boyce a Miss Evans