Helo blant!
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r penwythnos heulog gyda’ch teuluoedd ac yn barod ar gyfer wythnos arall o weithgareddau ysgol. Diolch eto am eich cyfraniad at y cyfarfodydd fideo dydd Gwener ddiwethaf. Fel athrawon, roeddem wrth ein boddau yn eich gweld chi eto a chlywed sut mae pethau’n mynd gyda chi.
Yr un drefn unwaith eto bydd ar gyfer yr wythnos gyda 6 weithgaredd i’w cwblhau yn seiliedig ar ein thema newydd: Newid Byd. Bydd y rhain yn cynnwys tasgau Rhifedd a llythrennedd – gweler y cerdyn bingo isod ac ar TEAMS.
Iaith
TROSI UNEDAU METRIG
Eich tasg yr wythnos hon yw i drosi/trawsnewid unedau mesur.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y cyflwyniad (pwerbwynt) a gwylio’r fideos isod er mwyn cofio sut i drawsnewid mesuriadau. Yna, ewch ati gyda’r heriau sydd wedi eu gosod ar TEAMS.
Mae 4 lefel gwahaniaethol – coch, oren, gwyrdd a gwyrdd gwyrdd o dan TEAMS.
Os ydych chi’n dewis gwneud Gwyrdd Gwyrdd, hoffwn i chi wneud Gwyrdd yn gyntaf.
Mae hefyd tasg mesur ychwanegol i chi gael gwneud. Mae’n cynnwys mesur pethau o gwmpas y tŷ. Bydd angen tâp mesur arnoch chi!
Pob lwc!
Fideos a gwefannau i’ch helpu:
https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/zvgnrj6/articles/zv82f4j
https://www.youtube.com/watch?v=p3pKfbJLsto&list=PLHfv3dxQsYirRbpMM-uDYlXRIh52weO9n&index=147&t=0s
Bydd hefyd disgwyl eich bod chi’n ail-afael yn y profion Rhifau rhagorol unwaith yr wythnos hon, gwneud TT rockstars a darllen yn ddyddiol.
Mi fyddwn ni ar TEAMS drwy gydol yr wythnos i’ch helpu, i ateb unrhyw gwestiwn ac i roi unrhyw arweiniad pellach ar y gwaith. Mi fyddwn ni hefyd yn diweddaru gwefannau blwyddyn 6 gydag enghreifftiau o’ch gwaith graenus.
Diolch,
Mr Lewis, Mrs Miles-Farrier a Mr Davies