Derbyn – Gwaith Cartref

E-ddysgu – Hwyl fawr Mabon, Olwen a Bedwyr – 13/7/20

Hyfryd oedd eich gweld wythnos diwethaf ac rydym mor falch o bob un ohonoch am gerdded fewn i’r ysgol gyda gwên fawr ar eich wynebau ar ôl cyfnod hir iawn adref.

Rydym wedi cyrraedd eich wythnos olaf yn y Dosbarthiadau Derbyn ac felly mae hi’n amser i ni grynhoi’r flwyddyn.

Prosiect Diwedd Blwyddyn

Mi fydd amserlen Teams yn eich ffeiliau wedi’u rhannu erbyn diwedd y dydd heddiw.

Staff y Dosbarthiadau Derbyn

Wythnos Ymweliadau Derbyn – 6/7/20

Helo blant,

Mae’n amlwg eich bod yn mwynhau ein thema môr-ladron yn arw, diolch i chi am eich gwaith wythnos ddiwethaf. Wythnos yma mi fydd yr athrawon yn yr ysgol yn eich gweld fesul tipyn, rydym yn edrych ymlaen yn arw!

Gyda diwedd y tymor yn prysur agosáu mae’n amser i ni eich cyflwyno i’ch athrawes ddosbarth newydd ac i chi gyflwyno eich hunain i athrawon Blwyddyn 1. Mae gwybodaeth am y gweithgareddau pontio wythnos yma ar gael ar j2homework ac mae fideo arbennig i chi yn eich ffeiliau wedi’u rhannu gan eich athrawes newydd.

Cofiwch ein bod wedi rhoi fideo yn eich ffeiliau wedi’u rhannu yn esbonio’r drefn cyrraedd a gadael yr ysgol wythnos yma ac yn dangos y dosbarth i chi.

Ni fydd ffrydio byw yn digwydd dydd Gwener yma gan y byddwn yn yr ysgol.

Mi welwn i chi wythnos yma!

Mrs Alaw, Miss Evans a Miss Thompson

E-ddysgu – Mor ladron – 29/06/20

Diolch blant am eich ymdrech arbennig wrth gwblhau’r heriau iechyd, ffitrwydd a lles. Mae dal amser i chi gwblhau’r heriau a gyrru eich lluniau atom. Gyrrwch unrhyw luniau atom erbyn Dydd Mercher y 1af o Orffennaf er mwyn sicrhau bod eich llun yn cael ei gynnwys yn ein fideo.

Gyda diwedd y tymor yn prysur agosau mae ein carped hud wedi glanio mewn man cyffrous iawn……..ynys y môr-ladron! Gobeithio ein bod am gyfarfod môr-ladron caredig!

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos.

Gweithgareddau Mor Ladron

Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn cael y cyfle i gael gweld y plant yn yr ysgol unwaith eto wythnos nesaf. Cofiwch gwblhau’r holiadur er mwyn nodi os yw eich plentyn yn dychwelyd a’u peidio erbyn Dydd Mercher y 1af o Orffennaf. Bydd yr ysgol wedyn yn eich hysbysu pa ddiwrnod fydd eich plentyn yn ymweld.

Er mwyn trafod dychwelyd i’r ysgol gyda’r plant mi fydd athrawon y Derbyn yn rhannu amserlen Teams yr wythnos dydd Iau.

Cân arbennig gan athrawon Treganna!

Wythnos Iechyd, Ffitrwydd a Lles y Cyfnod Sylfaen

Un o’n uchafbwyntiau yn ystod tymor yr haf yw ein diwrnod mabolgampau! Yn anffodus, nid yw’n bosib i ni gynnal y diwrnod eleni ond rydym am gynnal wythnos Iechyd, Ffitrwydd a Lles er mwyn dathlu pwysigrwydd edrych ar ôl ein corff ac ein meddwl.

Mae 20 her i chi geisio cwblhau yn ystod yr wythnos ac mi fydd ambell un ychwanegol yn cael ei rannu gyda chi drwy dudalen Teams eich dosbarth (Blwyddyn 2) neu yn eich Ffeiliau wedi’u rhannu (Blwyddyn 1 a Derbyn). Efallai bydd ambell wyneb cyfarwydd yn eich cyfarch neu yn gosod her arbennig y dydd!

Gweithgareddau Iechyd, Ffitrwydd a Lles

Cofiwch yrru lluniau neu glipiau fideo ohonoch yn cwblhau’r heriau i’ch athrawes ddosbarth drwy Teams neu J2e. Byddwn yn paratoi fideo i ddathlu gweithgareddau’r wythnos a rhannu eich doniau.

Gallwch gwblhau’r heriau yn erbyn aelodau eich teulu neu yn erbyn ffrind (drwy ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol) yn y parc.

Sgwn i os bydd eich athrawes yn llwyddo i gwblhau rhai o’r heriau?

Pob lwc,

Staff y Cyfnod Sylfaen

o.n Mi fydd ffrydio byw yn parhau wythnos yma.

E-ddysgu – India – 15/06/20

Helo blant,

Draw a ni ar antur i India ar y carped hud! Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos.

Gweithgareddau India

Cofiwch edrych yn eich ffeiliau wedi’u rhannu i ddarganfod adnoddau i gefnogi’r dysgu. Rydym wedi ychwanegu dwy deilsen i dudalen cartref eich cyfrif j2e – Amser stori Atebol a Llyfrau Cymraeg.

Mwynhewch,

Staff Mabon, Olwen a Bedwyr

E-ddysgu – Affrica – 8/6/20

Mae eich clipiau fideo coginio pasta wedi gwneud i’ch athrawon chwerthin wythnos diwethaf! Rydych yn gymeriadau a hanner!

Mae’r carped hud wedi teithio’n bell dros y penwythnos ac wedi cyrraedd cyfandir Affrica.

Gweithgareddau Affrica-

Cofiwch am y ffrydio byw dros Teams sy’n digwydd pob bore Gwener. Mae’n gyfle gwerthfawr iawn i’ch plentyn sgwrsio gyda staff y dosbarth a gyda’u cyfoedion. Mae cadw cyswllt cyson gyda’r athrawes ddosbarth yn golygu y bydd y broses o ddychwelyd yn ôl i’r ysgol yn haws i’ch plentyn. Os yr ydych yn cael trafferthion yn defnyddio Teams mi fydd Mrs Alaw yn yr ysgol dydd Mawrth felly mae croeso i chi ffonio’r ysgol er mwyn ceisio datrys y broblem.

Diolch,

Staff y Dosbarthiadau Derbyn

E-ddysgu – Yr Eidal – 2/6/20

Croeso’n ôl!

Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich wythnos yn yr haul – pwy sydd angen carped hud i deithio dramor pan mae Cymru mor braf!

Ddoe mi roedd hi’n ddiwrnod byd-eang y rhieni felly dyma fideo i ddiolch i chi am bopeth dros yr wythnosau diwethaf! https://www.j2e.com/ysgol-gymraeg-treganna/Mrs+Alaw/Diolch+Thank+you/

Bore ‘ma mi fyddwn yn hedfan draw i’r Eidal ac yn dysgu ychydig am fwydydd y wlad!

Gweithgareddau Yr Eidal

Mi fydd amserlen ffrydio byw Teams eich plentyn yn eu ffeiliau wedi’u rhannu erbyn diwedd y dydd heddiw.

Addio,

Staff Mabon, Olwen a Bedwyr.

Hanner Tymor

Diolch enfawr i bob un ohonoch am eich gwaith dros yr hanner tymor. Mae hi’n od iawn meddwl ein bod heb fod gyda’n gilydd yn y dosbarth ers 9 wythnos erbyn hyn. Rydym yn gweld eisiau pawb yn arw!

Dros yr wythnos nesaf y prif beth rydym eisiau i chi wneud yw ymlacio a mwyhau amser gydag eich teulu adref. Rydym wedi cynnwys llun calendr her Seren a Sbarc ac mae croeso i chi gwblhau’r heriau dyddiol.

Her Mis Mai Seren a Sbarc

Fyddai’n bosib i bawb yrru eich llun “Diolch” trwy j2e erbyn dydd Gwener y 29ain os gwelwch yn dda.

Mi fydd gweithgareddau tymor yr haf yn parhau dydd Mawrth yr 2il o Fehefin – ni fydd yr athrawon ar-lein ar ddydd Llun y 1af oherwydd diwrnod HMS.

Mwynhewch y gwyliau a diolch o waelod calon i chi gyd,

Staff Dosbarth Mabon, Olwen a Bedwyr

E-ddysgu – Sbaen – 18/5/2020

Bore da blant!

Hyfryd oedd sgwrsio gyda chi unwaith eto bore dydd Gwener. Mi fydd amserlen ffrydio byw dros Teams ar gyfer dydd Gwener yr 22ain ar gael yn Ffeiliau wedi’u rhannu erbyn bore dydd Mawrth. Cofiwch geisio cael mynediad i’ch “Team” cyn bore dydd Gwener er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad ac er mwyn sicrhau cyfle i’r athrawon ddatrys unrhyw broblemau.

Wythnos yma mi fyddwn yn parhau ar ein siwrne ar y carped hud ac yn hedfan draw i Sbaen.

Gweithgareddau Sbaen

Yn anffodus mi fydd stori’r wythnos yn cyrraedd ychydig yn hwyr gan fod Mrs Alaw dal yn aros i’r stori gyrraedd yn y post! Mi fydd ar gael i chi yn j2e erbyn diwedd prynhawn Llun gobeithio.

Mi fydd yr athrawon dosbarth yn dechrau defnyddio j2message i yrru negeseuon torfol. Mae croeso i chi ymateb i’r negeseuon hyn – yr athrawes yn unig fydd yn gweld eich ymateb.

Cofiwch ei bod hi’n wyliau hanner tymor wythnos nesaf felly ni fydd yr athrawon ar-lein yn ddyddiol.

Diolch a mwynhewch eich wythnos,

Staff y Dosbarthiadau Derbyn