Blwyddyn 6 – Gwaith Cartref

Gwaith cartref 27.11.2020

Helo blant!

Diolch am wythnos hyfryd unwaith eto. Rydym ni wedi bod yn brysur yn edrych ar hysbysebion ar gyfer ein prosiect Nadolig, yn gweithio ar ein mapiau stori ‘Pie Corbett’ ac yn ymarfer sut i ostwng a chynyddu canrannau. Da iawn chi blant am baratoi cyflwyniadau llafar arbennig!

Dros y penwythnos, hoffwn i chi edrych ar ganeuon y sioe Nadolig rhithiol. Bydd ffolder o dan TEAMS eich dosbarth. Trïwch ddysgu’r geiriau gymaint ag sy’n bosib. Byddwn yn ffocysu ar baratoi ar gyfer y sioe Nadolig rhithiol dros yr wythnosau nesaf.

Bydd prawf sillafu Cymraeg yr wythnos nesaf.

 Mwynhewch y penwythnos gyda’ch teuluoedd.

 

Diolch, Mrs Miles-Farrier, Mr Lewis a Mr Davies.

 

Gwaith Cartref 20/11/20

Prynhawn da bawb a dydd Gwener hapus i chi gyd!

 

Am wythnos arbennig a hynod o ddiddorol. Caswsom brofiadau gwerthfawr iawn o ddysgu mwy am fywyd actorion a derbyn cyngor cyn ein perfformiad Nadolig. Dysgom, hefyd, am hanes boddi Tryweryn a chlywed gan un o drigolion y pentref am ei brofiadau. Diolch enfawr i gyn athrawes Ysgol Treganna, Miss Elenid am ein caniatau ni i ddysgu am hanes ei theulu. Yn ogystal a hyn, rydym wedi bod wrthi yn edrych ar enghreifftiau o straeon sy’n seiliedig ar ddrysau cudd a dysgu sut i ysgrifennu un ein hun. Ym mathemateg, rydym wedi bod yn dysgu sut i gyfrifo canrannau o rhif ac i gyfrifo prisiau nwyddau o fewn arwerthiant.

Mae Mr Davies a Mrs Miles-Farrier wedi bod wrth ei boddau yn gwrando ar gyflwyniadau llafar safonol iawn ei dosbarthiadau nhw ac mae Mr Lewis yn llawn cyffro i ddychwelyd dydd Mawrth i wrando ar rhai dosbarth Gronw.

Gwaith Cartref mathemateg yw hi yr wythnos yma gyda’r ffocws ar ganrannau. Mae’ch athro dosbarth wedi rhannu aseiniad gyda chi ar TEAMS. Awgrymwn eich bod yn gwneud gwaith cyfrifo ar bapur cyn ateb y cwestiynau ar yr aseiniad er mwyn sicrhau eich bod yn ateb yn gywir. Sicrhewch eich bod yn darllen y cwestiwn yn ofalus!

Geiriau sillafu

Geiriau Sillafu Saesneg 20.11

 

Cofiwch i wneud defnydd o Bugs neu llyfrau darllen personol a TT Rockstars.

Mwynhewch eich penwythnos.

Mr Lewis, Mr Davies a Mrs Miles-Farrier.

Gwaith Cartref – 13/11/20

Prynhawn da a dydd Gwener hapus blwyddyn 6!

Da iawn chi am wythnos yn llawn ymdrech, dyfalbarhad a gwaith safonol iawn. Rydym wedi mwynhau eich gweld yn dysgu am brofiadau’r Cymry yn teithio i Batagonia a chael blas o’ch cyflwyniadau effeithiol. Rydym hefyd wedi’n plesio gyda’ch ymroddiad tuag at ddysgu canrannau, degolion a ffracsiynau a sut i’w cyfrifo…nid tasg hawdd yn sicr!

Mae eich gwaith cartref yn parhau o’r wythnos ddiwethaf lle byddwn yn gofyn i chi baratoi cyflwyniad llafar am arwr ysbrydoledig o’ch dewis chi. Edrychwch trwy rhestr wythnos diwethaf am syniadau a’r nodweddion sydd angen i chi gynnwys.

Geiriau sillafu Saesneg sy’n derbyn y sylw nesaf felly edrychwch dros rhestr eich lefel chi a dysgwch y patrwm sillafu. Cofiwch i wneud defnydd o Bugs Online neu darllen rhydd a TT Rockstars.

 

Mwynhewch y penwythnos,

Mr Lewis, Mr Davies a Mrs Miles-Farrier.

Gwaith Cartref 6.11.20

Helo flwyddyn 6,

Mae wedi bod yn braf iawn eich croesawu yn ôl yr wythnos hon a gweld y cynnydd mawr rydych chi i gyd wedi ei wneud gyda’r gwaith ffracsiynau yn ein gwersi mathemateg.

Patagonia sydd wedi bachu’r diddordeb yn y dyddiau diwethaf ac mi rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu ein sgiliau ysgrifennu ymhellach wythnos nesaf wrth i ni ysgrifennu dyddiadur o berspectif y Cymry.

Eich gwaith cartref dros y penwythnos yma, ac y penwythnos nesaf, yw i baratoi ar gyfer tasg llafar Gymraeg. Rydym yn gofyn i chi ystyried pwy yw’r arwr mwyaf ysbrydoledig, yn eich barn chi, a pham?

Gall yr arwr yma fod yn rhywun rydyn ni wedi astudio yn ystod y tymor, neu yn rhywun o’r rhestr isod.

  • Malala
  • Paul Robeson
  • Martin Luther King
  • Rosa Parks
  • Michael D Jones
  • Shirley Bassey
  • Tanni Grey-Thompson
  • Betsi Cadwaladr

Os ydych yn awyddus iawn i gyflwyno am arwr gwahanol i’r rhestr uchod, gwnewch yn siwr nag ydych wedi gwneud gwaith cartref ar y person o’r blaen.

Hoffwn i chi ymchwilio i gefndir y person, a darganfod pa heriau maent wedi gorfod goresgyn er mwyn llwyddo. Pa rinweddau maent wedi datblygu ac arddangos? Pam ydych chi’n creu eu bod nhw’n ysbrydoledig? Yn eich barn chi, sut maen nhw’n cymharu gydag arwyr eraill? Pam ydyn nhw’n fwy ysbrydoledig i chi? Beth sydd yn eu gwneud yn unigryw?

Cofiwch: pan yn cyflwyno ar lafar, mae’n bwysig eich bod yn gyfarwydd gyda’r hyn rydych chi am ei rannu. Ceisiwch ddysgu’r hyn rydych eisiau dweud, a defnyddio ‘cerdiau fflach’ neu pwyntiau bwled byr ar sgrin er mwyn eich atgoffa. Dydyn ni ddim eisiau eich bod yn darllen o’r sgrin neu o sgript. Mae gwneud cyswllt llygad gyda’r gynulleidfa yn bwysig. Byddai’n well gennym petaech yn dweud llai, ond wedi dysgu’r hyn sydd gennych i’w rannu, yn hytrach na darllen sgript hir!

Byddwch yn ofalus iawn os ydych chi’n defnyddio Google Translate. Darllenwch dros yr hyn mae’n awgrymu.

 

Geirfa bosib i’ch helpu wrth fynegi barn a chymharu:

Yn fy marn i,…

Does dim amheuaeth mai….

Mae yna sawl rheswm….

Mae’n amlwg bod….

Er bod……,

Tra bod…..,

Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am …[ENW]… yw…………

Y peth sydd yn fy ysbrydoli fwyaf am [ENW] yw………

 

Rydym yn gobeithio cynnal y dasg hon fel rhyw fath o ‘sgwrs / trafodaeth ddosbarth’ (debate). Felly bydd eich cyflwyniadau chi yn sbardun trafod i weddill y dosbarth ac felly bydd eich ffrindiau yn gallu gofyn cwestiynau ac eich herio ar ddiwedd eich cyflwyniad. Byddwch yn barod i sefyll dros yr hyn rydych chi’n ei gredu a, bwysicaf oll, rhoi rhesymau dros eich barn [felly defnyddiwch “oherwydd…”].

 

Mwynhewch y penwythnos ac ymlaciwch!

Athrawon blwyddyn 6

Gwaith cartref 23.10.2020

Helo blant,

Mae wythnos hanner tymor wedi cyrraedd! Rydym ni wedi cael hanner tymor hyfryd gyda chi ym mlwyddyn 6! Rydych chi’n sêr! 

Da iawn chi am gyflawni ‘Sgwennu ‘Sblennydd gwych ddydd Gwener. Braf oedd darllen eich erthyglau papur newydd am araith Martin Luther King.

Rydych chi wedi bod yn gweithio’n galed ar eich gwaith ffracsiynau dros yr wythnos diwethaf.

Dros yr hanner tymor, hoffwn i chi gwblhau cwis ffracsiynau ar FORMS. Bydd y linc ar eich TEAMS o dan Assignments. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n deall pob cwestiwn, gwnewch beth chi’n gallu. (Mae cwestiynau lefel coch, oren a gwyrdd).

Gallwch chi hefyd barhau i ddarllen llyfrau, gwneud BUGS ar lein ac ymarfer eich tablau drwy TT Rockstars.

Wrth gwrs, cofiwch hefyd i ymlacio dros y gwyliau! Diolch ?

Staff blwyddyn 6 Emoticon, Smile, Emoji, Happy, Happiness, Happy Face

Gwaith Cartref 16/10/20

Prynhawn da a dydd Gwener hapus blwyddyn 6,

Rydym wedi bod wrth ein boddau gyda’r gwaith rydym wedi gweld yr wythnos hon. O ddathlu diwrnod Shwmae Su’mae i ddysgu am nodweddion papurau newydd, rydych wedi serennu! Rydych hefyd wedi gwneud gwaith arbennig yn ein gwersi mathemateg lle rydych wedi bod yn edrych ar ffracsiynau cyfwerth ac yn adio a thynnu ffracsiynau hefyd.

Eich gwaith cartref yr wythnos hon yw ffeindio erthygl papur newydd/cylchgrawn gydag oedolyn sy’n apelio atoch. Gall hwn fod am eich hoff fand, chwaraeon, ffilm neu bod am rywbeth sydd yn y newyddion. Eich tasg yw i uwcholeuo unrhyw eirfa sy’n cael effaith ar eich emosiynau. Gwnewch restr o’r eirfa yma ac yna defnyddiwch nhw o fewn brawddegau eich hun. Cofiwch i gael llun o’ch gwaith a’i yrru ar ‘assignments’ TEAMS eich dosbarth.

Sicrhewch eich bod yn cael cyfle i adolygu geiriau sillafu Saesneg, i ddarllen ac i weithio ar eich tablau. Pob lwc a mwynhewch y penwythnos.

Week 3 – English spelling – Test 23.10.2020

 

Gwaith Cartref 9.10.20

Helo flwyddyn 6!

Mae eich ymdrech wythnos hon yn ein gwaith rhannu, yn y gwersi mathemateg, ac wrth ysgrifennu blog am Fae Caerdydd, wedi bod yn wych! ?

Dros y penwythnos, hoffwn i chi gwblhau’r cwis cyflym Rhannu, sydd ar Assignments, ar TEAMS. Mae’r gwaith cartref erbyn dydd Mercher.

Yn ogystal â hyn, cofiwch i dreulio peth amser ar TT Rockstars a BUGS.

Mwynhewch ac ymlaciwch!

Athrawon blwyddyn 6

Gwaith cartref 2.10.2020

Helo flwyddyn 6,

Am wythnos brysur a difyr unwaith eto. Rydym ni wedi bod yn astudio hanes Bae Caerdydd, yn ymarfer ein sgiliau lluosi a rhannu ac yn edrych ar flogs yn barod ar gyfer ein ‘Sgwennu ‘Sblennydd wythnos nesaf! Ein ‘Sgwennu ‘Sblennydd fydd ysgrifennu blog i ddenu twristiaid i Bae Gaerdydd.

Fel ymarfer ar gyfer y ‘Sgwennu ‘Sblennydd, hoffwn i chi fod yn dywyswyr teithio (tour guides) gan ddangos sut mae Bae Caerdydd wedi newid dros amser yn y Gymraeg. Byddwn yn canolbwyntio ar waith llafar yr wythnos hon gan glymu eich sgiliau digidol hefyd. Dylech ddefnyddio Adobe Spark, Flipgrid (ar gael trwy hwb) neu feddalwedd creu fideo o’ch dewis chi. Pob lwc!

Cofiwch i gyflwyno eich fideo chi drwy Assignments ar TEAMS erbyn dydd Mercher y 7fed o Hydref. Os oes problem, plîs gadewch i ni wybod.

Nodweddion i helpu:

  • Pwer o 3: Ailadrodd geiriau tair gwaith er mwyn pwysleisio’r ffaith.
  • Geirfa emosiynol: Geiriau er mwyn i chi deimlo ffordd arbennig – ardal hanesyddol, werdd, hyfryd, arbennig…
  • Cwestiynau rhethregol: Cwestiynau lle nad ydych yn disgwyl ateb. Pwrpas rhain yw i annog y gwylwyr i ddangos diddordeb.
  • Ffeithiau ac ystadegau (data): Er mwyn profi bod eich ffeithiau chi’n wir. E.e Mae dros 5000 o bobl yn byw yno.
  • Idiomau: Heb os nac oni bai, rhoi’r ffidil yn y tô, bwrw hen wragedd a ffyn, a’i wynt yn ei ddwrn…
  • Lluniau: Fel bo’r daith yn un sy’n ddiddorol i wylio.
  • Amrywio tôn eich llais a mynegi geirfa mewn ffordd frwdfrydig: Fel tywyswyr, rhaid i chi gynnal diddordeb y gwrandawyr felly siaradwch mewn ffordd sy’n ddiddorol ac  egnïol.

Geiriau sillafu CYMRAEG fydd yr wythnos nesaf, felly bwrwch olwg dros y geiriau dros y penwythnos.

Gyda’r noson agored yn nesáu (8.10.20), os oes unrhyw gwestiynau, plîs allwch chi eu nodi ar sianel unigol TEAMS eich plentyn cyn y noson. Diolch!

Mwynhewch y penwythnos! Mrs Miles-Farrier, Mr Davies a Mr Lewis

 

Gwaith Cartref 25/9/20

Prynhawn da a dydd Gwener hapus blwyddyn 6!

 

Rydym wedi mwynhau wythnos brysur arall ac wedi bod wrth ein boddau gyda’ch bywgraffiadau ar aelodau’r teulu. Rydym yn lwcus iawn i gael amrywiaeth eang o deuluoedd diddorol dros ben yn ein plith yma. Uchafbwynt yr wythnos oedd gweld hyder y disgyblion wrth gyflwyno’i gwaith i’r dosbarth gan daflu llais a chadw diddordeb y gwrandawyr mewn ffyrdd mor effeithiol.

Rydym wedi bod wrthi yn edrych ar nodweddion bywgraffiad yn iaith ac wrthi’n paratoi tuag at ein Hysgrifennu ysblennydd ar ddydd Llun. Tynnu a lluosi sydd wedi derbyn y sylw ym mathemateg wrth i ni barhau i ddysgu am ffoaduriaid yn ein gwersi thema.

Eich gwaith cartref yr wythnos hon yw cwblhau’r heriau lluosi isod. Cofiwch i ddewis rhwng dull colofnau, dull grid (hashtag) neu’r dull ‘lattice’ cafodd ei wneud yn enwog gan y mathemategydd Fibonacci. Gwaith-cartref-coch-oren-gwyrdd

Cofiwch hefyd i ddarllen nofelau sydd gennych yn y tŷ neu ‘Bugs Online’ yn Saesneg ac i geisio treulio ychydig o amser ar TT Rockstars. Bydd eich geiriau sillafu ar TEAMS eich dosbarth.

Yn bwysicach fyth, mwynhewch eich penwythnos.